P-05-770 Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Davies, ar ôl casglu 208 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf drenau Crymlyn. Rydym yn credu y gallai Crymlyn fod yn ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus bwysig. Byddai ei lleoliad allweddol yn cynnig pwynt cyfnewid ar gyfer sawl dull teithio rhwng gwasanaethau rheilffordd llinell Glynebwy ar ei newydd wedd a phrif lwybr y bysiau cyflym rhanbarthol drwy ganol y cymoedd. Mae safle'r orsaf yn gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd, ac mae ganddo faes parcio mawr a lle i fysiau. Mae modd cyrraedd llwybrau cerdded a beicio o'r safle. Nodwn fod y llygredd aer ar un o'r strydoedd yng Nghrymlyn gyda'r gwaethaf y tu allan i Lundain a bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i asesu'r achos dros ailagor gorsaf drenau yng Nghrymlyn ac i ystyried ei hychwanegu at y rhestr flaenoriaethau nesaf o gynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Islwyn
· Dwyrain De Cymru